Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Dyfrig Jones

(March 01, 2017)

English

Dr Dyfrig Jones

Dr Dyfrig Jones

Er gwaethaf yrfa ddi-nod yn yr ysgol, dringodd Dr. Dyfrig Jones i fod yn ffisegydd o enwogrwydd rhyngwladol, gan arddangos gwychder yn nwy agwedd ei faes, ymarferol a damcaniaethol. Roedd hyn yn gyfuniad anarferol a amlygwyd yn ei ddwy ddoethuriaeth, yn Aberystwyth a Chaergrawnt. Maes ei arbenigedd oedd yr amrywiaeth o belydriad yn haenau uchel yr atmosffer, yn enwedig yr ïonosffer a chyffiniau planedau’r Iau a Sadwrn. Yn Gymro brwd, amlygodd ei wlatgarwch trwy gymryd y cam anarferol o wneud y datganiad rhyngwladol cyntaf o un o’i brif ddarganfyddiadau mewn cyfarfod gwyddonol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1986. Bu farw yn 1989 yn 49 oed.

Ganwyd Dyfrig ar yr 16eg o Awst 1940 yn nghartref teuleol ei fam yng Nghrwbin, pentref bach yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ei dad yn ficer y plwyf cyfagos Dryslwyn yn Nyffryn Tywi. Yn 1943, pan oedd Dyfrig yn dair oed, apwyntiwyd ei dad yn ficer plwyf Llandudoch nid nepell o Aberteifi, ardal a ystyrid gan Dyfrig ar hyd ei oes yn baradwys. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd yr Eglwys – yng - Nghymru yn Lllandudoch ac wedi hynny yn Ysgol Ramadeg Aberteifi. Nid oedd yn ddisgybl nodedig o ddiwyd yn y naill ysgol na’r llall, heblaw am fathemateg lle amlygodd allu uchel a brwdfrydedd taer.

Pan oedd tua 13 oed, holwyd ef a’i gyfoedion ynghylch ei yrfa debygol. Ei ateb oedd, ‘bod yn ficer’. Roedd hyn yn dipyn o syndod, os nad sioc, i’w athrawon gan nad oeddent wedi cysylltu ei ymddygiad direidus â’r fath alwedigaeth ddwys. Wrth gynnig esboniad, dwedodd Dyfrig, ‘Mae fy nhad yn ficer ac mae e’n mwynhau bywyd da’. Does dim modd gwybod a oedd yr esboniad hwn yn sylw gonest neu yn farn gellweirus bachgen yn ei arddegau. Pa ffordd bynnag, roedd ymateb yr ysgol yn nodweddiadol gul o’r cyfnod (1950au) a felly rhoddwyd Dyfrig yn set ‘y celfyddydau’ i ddilyn Lladin a hanes a phynciau a ystyrid yn baratoad addas ar gyfer darpar glerigwr. Yn y dyddiau hynny roedd cwricwlwm set celfyddydau yn gul iawn yn y gwyddorau, canlyniad pur anaddas i Dyfrig. Bron yn anochel roedd ei ganlyniadau 16+ (lefel-O) ar y gorau yn gymhedrol, heblaw am fathemateg. Pan ddaeth yr amser i ddewis pynciau lefel-A roedd y posibiliadau yn denau iawn. Roedd mathemateg yn amlwg yn ddewis cyntaf gyda daearyddiaeth, wedi meddwl gofalus, o fewn cyrraedd. Ond ei ddymuniad oedd dilyn ffiseg a chemeg, er gwaethaf ei berfformiad lefel-O. Cafodd sgwrs gyda’r athro cemeg a derbyn gwrthodiad llwyr, ond roedd ymateb ei athro ffiseg yn dangos ymagwedd mwy hyblyg a chadarnhaol. Gosododd her gerbron Dyfrig: i basio ffiseg lefel-O mewn un tymor ac yna symud i lefel-A. Cyfrannodd yr athro ffiseg at y fenter trwy gynnig rhwydd hynt i Dyfrig i’r labordy, lle cai weithio ar arbrofion perthnasol. Dyma’r ‘wawr’ iddo, gyda’r cyfle i dreulio amser yn y labordy yn debyg i fyw yn ogof Aladdin. Llwyddodd i drechu’r her ac ymhen amser cafodd lwyddiant lefel-A a chael mynediad i’r brifysgol yn Aberystwyth. Yn nhermau addysg roedd e ‘gartref’.

Roedd yn fyfyriwr is-raddedig da, ond blodeuodd ei allu nodedig yn ei astudiaethau ymchwil a ddilynodd wedi graddio. Enillodd ei ddoethuriaeth am ddull newydd o ddadansoddi mesuriadau ionosfferig (mae’r ionosffer yn rhanbarth lle mae groynnau wedi’u gwefru’n drydanol yn ymestyn o uchder o tua 60 i tua 1000 km o’r Ddaear; mae’n galluogi cyfathrebu radio o amgylch arwyneb crwm y Ddaear), maes o ymchwil ardderchog yn Aberystwyth dros amser hir. Aeth Dyfrig ymlaen i’r labordy Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt wedi iddo ennill ysgoloriaeth ymchwil dair blynedd ôl-ddoethurol yng Ngholeg Sant Ioan; yma enillodd ei ail ddoethuriaeth am astudiaethau ar ‘chwibaniadau’, ffenomen o synau rhyfedd a ddarganfuwyd gyntaf trwy deleffonau tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd y gwaith hwn gan gyfnod dwy-flynedd yn gynorthwy-ydd ymchwil nôl yn Aberystwyth.

Ionosphere in the Earth's atmosphere By Bhamer, updated to SVG by tiZom (English Wikipedia) [Public domain], via Wikimedia CommonsÏonosffer yn atmosffer y Ddaear,
yn dangos uchder uwchben wyneb y Ddaear, tymheredd (K) a dwysedd electron
  

Yn 1970 dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth ddwy flynedd i weithio yn yr Iseldiroedd yn y Ganolfan Gofod a Thechnoleg Ewropeaidd (ESTEC) a ddaeth yn Asiantaeth Gofod Ewropeaidd (ESA); ym mhen amser aeth yr ysgoloriaeth yn swydd staff, y cyfan yn rhychwantu naw mlynedd. Yn y cyfnod hwn cyflawnodd Dyfrig ddatblygiadau arloesol, trawiadol a enillodd iddo fri rhyngwladol. Yn 1974 dychwelodd i Gaergrawnt yn wyddonydd ymchwil gyda’r Arolwg Antarctig Prydeinig (BAS).

Dros flynyddoedd lawer bu ymchwil yn Aberystwyth yn defnyddio’r dechneg o anfon signalau radio i’r ïonosffer ac astudio’r signalau a ddeuai yn ôl i’r Ddaear mewn canlyniad i adlewyrchiad o lefelau gwahanol yn yr ïonosffer. Ar gyfer ei ddoethuriaeth yn Aberystwyth bu Dyfrig, dan oruchwyliaeth Dr Derwent Maude, yn datblygu dull newydd o ddadansoddi mesuriadau o’r signalau a ddychwelai (a hynny yn rhoi gwybodaeth am yr ïonosffer). Dangosodd y gwaith fod angen gwneud mesuriadau cydberthyniad ar bob amledd ar wahân am fod tonnau o amleddau gwahanol yn teithio ar gyflymderau gwahanol. Bu’r canfyddiad hwn yn drawiadol ar y pryd a daeth yn fodel i ymchwilwyr eraill.

Yn Nghaergrawnt dyfarnwyd ei ddoethuriaeth am astudiaethau ar ‘chwibaniadau’, nodwedd o ffiseg gofod a nodwyd gyntaf yn 1894 gan y Cymro W.H. Preece (Earth Currents, Nature, London 49,554,11894) ac a esboniwyd yn ddamcaniaethol gan Gymro arall, O.Ll. Storey, o Langollen (Phil. Trans. Roy. Soc. London A246, 113-14, 1953).

Tra oedd yn gweithio yn yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd datblygodd Dyfrig gydberthynydd digidol ar gyfer lloeren geosefydlog er mwyn cael sbectra tonnau. Cyn hyn, mesurwyd sbectra trwy ddadansoddi amleddau data gwreiddiol, ond roedd manteision amlwg o gael y cydberthynydd gyda’r lloeren, nid yn lleiaf y gostyngiad sylweddol yn y llwyth o ddata a anfonid yn ôl i’r Ddaear. Bu llwyddiant trawiadol y cydberthynydd yn fodd hyrwyddiant astudiaethau ar donnau plasma a thonnau electromagnetig ac arweiniodd at brif astudiaeth Dyfrig, sef, pelydriad plasma ar uchder o tua 25,000 km pan yw dwysedd y plasma yn disgyn yn gyflym (Plasma yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cymysgedd o electonau, gwefr negatif, ac ionau, gwefr bositif; mae rhai yn disgrifio plasma yn bedwerydd cyflwr mater gyda solid, hylif a nwy). Lluniodd ef ddamcaniaeth gymhleth i esbonio’r pelydriad. Ar y dechrau roedd y ddamcaniaeth yn cystadlu gyda chwech damcaniaeth arall; roedd ei chymhlethdod yn drysu hyd yn oed yr Athro Phil Williams, gwyddonydd gofod-Ddaear o fri rhyngwladol yn Aberystwyth. Yn ôl ‘greddf’ yr Athro, mi roedd yn ofynnol bod unrhyw ddamcaniaeth yn ei hanfod yn syml a felly roedd ef yn amheus iawn o feddyliau Dyfrig. Beth bynnag cafodd ei argyhoeddi, nid yn lleiaf oherwydd un nodwedd arbennig o’r ddamcaniaeth oedd ei bod yn rhagfynegi’n gywir iawn ganlyniadau arbrofion creiddiol.

Bu’r cyntaf o’r arbrofion hyn ar belydriad radio o’r blaned Iau gan y llong–ofod Voyager; gwireddwyd damcaniaeth Dyfrig yn llwyr. Daeth cadarnhad pellach o astudiaethau tebyg o Sadwrn gyda Voyager. Cafwyd cadarnhad sicrach fyth o ddata o Dynamics Explorer 1, lloeren a amgylchai’r Ddaear.

Roedd cariad Dyfrig at Gymru a’r pethe bob amser yn amlwg. Hwyrach y dystiolaeth fwyaf trawiadol o hyn oedd ei ddewis i ddatguddio’i ddamcaniaeth parthed y data o Voyager gyntaf wrth draddodi’r Ddarlith Wyddonol Flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun yn 1986. Dyma newid nodedig o drefn arferol gwyddonwyr oedd â rywbeth syfrdan i’w rannu gyda gwyddonwyr eraill, sef, cyflwyno papur mewn cynhadledd o arbenigwyr neu i gyhoeddi papur technegol; dilynwyd yr ail ddull yn ddiweddarach pan gyhoeddwyd damcaniaeth Dyfrig yn Nature, cylchgrawn awdurdodol.

Digwyddodd enghraifft arall o ddireidi chwareus Dyfrig a’i wlatgarwch balch pan wahoddwyd ef i gyflwyno papur mewn cynhadledd ryngwladol, lle roedd darpariaeth gyfieithu gyda chroeso i gyflwynwyr ddefnyddio iaith o’u dewis. Dechreuodd Dyfrig yn Gymraeg! Bu penbleth ymhlith y cyfieithwyr ond gwelodd Dyfrig eu gofid a siaradodd yn Saesneg.

Tro creulon ffawd oedd iddo, pan oedd ar frig ei ddoniau, gael ei daro gan diwmor yr ymennydd a fu’n achos ei farw ar y 6ed o Awst 1989. Pwy a ŵyr pa uchelfannau eraill y byddai wedi dringo gan gymryd eraill ar ei ôl. Mae ei garreg fedd ym mynwent Aberteifi’n cario’r arysgrif Gwyddonydd a Gwladgarwr.

Ymhlith y nifer helaeth o deyrngedau a anfonwyd o bedwar ban byd, mae’n bosibl y byddai Dyfrig wedi bod yn fwyaf ei werthfawrogiad o gerdd Gymraeg er anrhydedd gan Emrys Roberts, cyn Archdderwydd Cymru. Yn ei saith pennill mae’n cyfeirio, yn gywir ac yn gain, at agweddau o’i weledigaeth dreiddgar wrth astudio’r ïonosffer, at ddidwylledd brwd ei wladgarwch ac at eironi ei salwch terfynol.

Neville Evans, Mawrth 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Ewart Ray Herbert Jones; Rhagfyr 2016
Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015
Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014
Yr Athro Julie Williams; Medi 2014
Ieuan Maddock C.G.F.
; Mehefin 2014
John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014
David Brunt C.G.F.
; Rhagfyr 2013
Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017

 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create