Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Ynysyfelin, cymuned goll (Cymraeg)

(March 01, 2017)

English

Ynysyfelin: cymuned goll

Llwyn Onn

 

Cymuned yn hytrach nag unigolyn sy’n cael y sylw y tro hwn, sef cymuned a ddifrodwyd er mwyn creu cronfa ddŵr i ddiwallu anghenion dinas Caerdydd, a hynny heb wrthwynebiad o unrhyw gyfeiriad.

Wrth deithio tua’r Bannau ar hyd yr A470 o gyfeiriad y de, mae’n werth aros am ychydig yn y gilfach gyntaf sydd ar ben deheuol cronfa ddŵr Llwyn Onn ger y tro am Gwm Cadlan, er nad oes fawr o olygfa oddi yno. Ond o edrych ar draws y briffordd brysur, yr hyn a welwn ni yw capel bach syml ei wedd, llawer llai na’r arferol i gapel Cymreig. Mae’r arwydd o’i flaen yn adrodd cyfrolau am ei hanes: “Bethel, Capel y Bedyddwyr. Adeiladwyd 1799. Ail adeiladwyd 1866. Symudwyd o Ynysyfelin 1914.”

 

Ar ochr yr A470
Llyn Onn, ar ochr yr A470

Arysgrif ar fur yr argae
Arysgrif ar fur yr argae
 

Capel Bethel Arwydd y capel
Capel Bethel  Arwydd y capel

Ffeithiau cryno, moel, ond sydd, ar yr un pryd, yn awgrymu bod yna lawer rhagor i’w ddatgelu yn y stori ryfeddol hon. Cafodd capel Bethel ei symud yma pan foddwyd y cwm gyferbyn, ymron i ganrif yn ôl. Mae Bethel yn dal ar agor, ond erbyn heddiw, rhyw ddwsin o bobl sy’n mynychu’r oedfaon, a’r gwasanaethau’n tueddu i fod yn ddwyieithog gyda rhagor o Saesneg nag o Gymraeg. Ond nid felly y bu hi erioed. Ychydig dros ganrif yn ôl, roedd seiniau’r Wenhwyseg yn atsain hyd y dyffryn, a’r ardal yn gymuned fywiog, gyforiog o ddiwylliant, yn falch o’i thraddodiad crefyddol.
 

Capel Bethel
Capel Bethel heddiw

Safai pentref Ynysyfelin yr ochr draw i’r llyn, yn galon i gymdeithas amaethyddol gymdogol, glos. Ar y pryd, roedd yr hen gapel, y Bethel gwreiddiol, yn fam eglwys i nifer o gapeli Bedyddwyr dros ardal ehangach, ac er mai perthyn i Sir Frycheiniog roedd y plwyf ar y pryd, sef plwyf y Faenor, roedd capel Bethel yn ddylanwadol iawn yn ardaloedd Penderyn, Aberdâr ac Abercynon. Codwyd yr adeilad gwreiddiol yn 1799, ond bu’n rhaid ei ymestyn yn 1866 am ei fod o’n llawer iawn rhy fach i gynnig cartref i’r holl weithgarwch.
 

Fferm Ynysyfelin
Fferm Ynysyfelin
 

Roedd tua 50 o bobl yn byw yma erbyn 1900 mewn casgliad o adeiladau ar lan yr afon, megis ffermydd Ynysyfelin a Throedyrhiw, tri thyddyn a dwy felin, heb anghofio’r ddwy dafarn hefyd, sef Godrefedw a’r Llew Coch, a stryd fechan o dai teras. Doedd dim ysgol yn y pentref ei hun gan mai teithio i Nant Ddu y byddai’r plant i gael eu haddysg, ac yno hefyd yr oedd yr eglwys, sef Eglwys y Santes Fair. Arbedwyd pentref Nant Ddu rhag cael ei foddi, ond bu’n rhaid i bobl symud allan o’r fan honno hefyd. Yn y cwm i gyd, roedd tua 30 o ffermydd yn magu defaid a thyfu llafur. (Ceir disgrifiadau manwl o enwau’r ffermydd a’u cynnyrch mewn erthygl ragorol gan Gwyneth Evans mewn rhifyn o gyfnodolyn Cymdeithas Brycheiniog: Brycheiniog Cyfrol XLV 2014. Ceir hanesion pellach ar y wefan Cwmtaff and the Beacons www.alangeorge.co.uk/cwmtaff.htm)

 

Capel Bethel a'r Fynwent Charles Morgan
Capel Bethel a'r Fynwent Charles Morgan

Tenantiaid oedd y trigolion i gyd fwy neu lai, gan fod y tiroedd yn perthyn i Arglwydd Tredegar, a’r adeiladau yn eiddo i bobl o Gaerdydd. Hynny sy’n egluro pam y byddai trigolion Ynysyfelin yn sôn yn ddilornus braidd am “wŷr Caerdydd”, gan eu bod yn cynrychioli dosbarth pur wahanol o bobl. Roedd yr atgof yn fyw o hyd am yr hen amser pan oedd y cwm cyfan yn dir hela i’r Arglwydd Tredegar, ac roedd yntau’n falch iawn o’i gaban hela lle y saif gwesty Nant Ddu heddiw.


Nant Ddu
Nant Ddu
 

 

Ar droad y ganrif, dechreuodd y sibrydion gynyddu bod Corfforaeth Caerdydd yn llygadu’r cwm gyda’r bwriad o sefydlu cronfa ddŵr i’r ddinas fawr oedd yn tyfu’n gyflym ar y pryd. Nid fod hynny’n annisgwyl, gan bod cronfa ddŵr Cantref wedi bodoli ers 1892, a hawl seneddol wedi ei roi i godi argae arall yn is i lawr yr afon ers 1884. The Cardiff Times, Llwyn Onn edition

Erbyn 1908, roedd y Cardiff Times yn datgan bod cynlluniau pendant ar y gweill i foddi Ynysyfelin, a chronni’r dŵr. Ymddangosodd adroddiad yn yr un papur newydd ar Fawrth y 5ed 1910, yn egluro mai hwn oedd y diwrnod olaf i dderbyn unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun, ac wrth i’r cyhoeddiad fynd i’r wasg, doedd neb wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad.

Un ddamcaniaeth am hynny yw mai tenantiaid oedd y ffermwyr yng Nghwm Taf, a bod y tirfeddiannwr, Godfrey Charles Morgan, Arglwydd Tredegar, wedi derbyn arian da mewn iawndal. Doedd dim hawl gan drigolion Ynysyfelin i leisio barn, felly ildio fu’n rhaid. I fod yn deg, roedd achos Corfforaeth Ddŵr Caerdydd dros foddi’r ardal yn hynod o gryf, gan i’r dref, cyn ei dynodi’n ddinas, ddioddef yn ddrwg o haint y colera yn 1849, ac roedd dirfawr angen cyflenwadau digonol o ddŵr glân. Rhaid cofio hefyd fod trigolion Merthyr wedi ceisio gwrthwynebu’r cynllun i godi’r gronfa gyntaf, yn uwch i fyny’r afon, ond ofer fu pob ymdrech. Gwangalon iawn felly oedd trigolion Ynysyfelin a Nant Ddu y tro hwn. Collwyd y tiroedd, boddwyd eu cartrefi, dinistriwyd y gymuned, ond fe aethon nhw â’u capel gyda nhw, neu o leiaf fe godwyd capel newydd ar lecyn newydd, digon pell o afael y dŵr.

Dechreuwyd ar y gwaith clirio a pharatoi ym 1914, ond aeth 12 mlynedd arall heibio cyn i’r cyfan ddod i ben, pan gynhaliwyd y seremoni agoriadol ar fur yr argae ym mis Mehefin 1926 dan arweiniad Arglwydd Faer Caerdydd, W. B. Francis.

Erbyn heddiw, nid pawb sy’n sylweddoli fod yna gymuned Gymraeg wedi bodoli yn y cwm hwn o gwbl. Rhuthro heibio’r fan ar hyd yr A470 y bydd y mwyafrif ohonom, gan ryfeddu at harddwch cronfa Llwyn Onn efallai, heb feddwl ddwywaith am dynged pentref Ynysyfelin.
 

Yr olygfa o Ynysyfelin
Yr olygfa o Ynysyfelin
 

Ond erbyn canol haf yn aml iawn, mae yna adegau sy’n sobri dyn. Wrth i’r sychdwr ddod, a lefel y llyn yn gostwng ddydd ar ôl dydd, bydd olion yr hen bentref yn mynnu dod i’r golwg. Ac fel un sy’n arfer treulio oriau ar lan y llyn o dro i dro, yn ceisio cael y gorau ar bysgod tewion Llwyn Onn, bydd yr atgof am gymuned fywiog Cwm Taf yn gyrru iasau i lawr asgwrn cefn dyn. Gweld y ddoe a fu, gan beri i rywun deimlo ein bod ni, rhywsut, yn busnesa ym mywydau’r rhai a fu â’u bywydau prysur yn harddu llechweddau’r dyffryn hwn ganrif a rhagor yn ôl.
 

Lleoliad yr hen bentref
Lleoliad yr hen bentref
 

Y bont a arferai groesi’r afon ddaw i’r golwg gyntaf, ar gwr lleoliad pentref Ynysyfelin, yn gwbl weladwy. Ac o weld y bont am y tro cyntaf, fedr dyn ddim peidio teimlo bod yna ryw dynfa, rhyw linyn arian yn ein cysylltu ni â’r bobl hynny oedd yn arfer byw eu bywydau ar lannau’r afon heb ystyried am eiliad beth oedd o’u blaenau.

Roedd gan y trigolion eu henw eu hunain am y bont hon. Yn swyddogol, Pont ar Daf oedd hi, ond yn answyddogol, “Pont y Clecs”, am mai yno y bydden nhw’n arfer cyfarfod fin nos i sgwrsio a hel clecs, a hynny’n arferiad pentrefol rheolaidd yn ôl y sôn. Yn ddiddorol iawn, pan fu’r darlledwr Richard Rees yn holi un o’r cyn-bentrefwyr am hanes yr ardal mewn cyfres radio tua chwarter canrif yn ôl, ni soniodd y gŵr hwnnw yr un gair am ‘lyn’ na ‘chronfa ddŵr’, dim ond ‘y pownd’.
  

Pont y ClecsPont y Clecs
  

Y tro nesaf y byddwch chi’n gyrru ar hyd yr A470 heibio i gronfa ddŵr Llwyn Onn, byddai’n werth i chi aros am ychydig funudau i edmygu’r llyn, i weld Capel Bethel, ac i gofio am yr hen bentref a’r gymuned a gollwyd.

Emlyn Davies, Mawrth 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015
 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2017

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create