Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Owen Thomas Jones CGF

(June 01, 2017)

English

Dr Owen Thomas Jones D.Sc. (Cymru), C.G.F.

Owen Thomas Jones. Catalogue Number: P810095. Reproduced Courtesy of the British Geological Survey
Image: Catalogue Number: P810095
Reproduced Courtesy of the British Geological Survey

Mae O T Jones yn y rheng flaenaf o ddaearegwyr y byd a daeth bron pob anrhydedd iddo yn y maes hwn. Ganed ef yn 1878. Roedd ei addysg gynnar (hyd at 15 oed) yn gyfyng, ond yn fuan gwelwyd bod ganddo ddoniau ymenyddol neilltuol a doedd dim syndod iddo ddringo grisiau academaidd yn gyflym iawn yng Nghymru a Lloegr. Gwasanaethodd gyda’r Arolwg Daearegol Prydeinig cyn symud i fyd prifysgol yn Aberystwyth, Manceinion a Chaergrawnt. Cyfranodd yn helath iawn i astudiaethau o ddaeareg Cymru yn enwedig creigiau â’u henwau’n gysylltiedig â Chymru e.e. Cambriaidd, Ordoficaidd a Siluraidd. Hwyrach uchafbwynt ei waith oedd y synthesis meistrolgar a gyhoeddwyd dan y teitl Evolution of a Geosyncline. Etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1926. Bu farw yng Nghaergrawnt yn 1967, yn 89 oed.

 

  Map daearegol o Gymru a de-orllewin Lloegr  
  Map daearegol o Gymru a de-orllewin Lloegr,
yn seiliedig ar:
 
  British Geological Survey; 2005: Bedrock geology UK South, 1:625 000 scale (5th ed.), HarperCollins Publishers Ltd.  
  Jackson, A.A.; 2005: Bedrock geology UK South, an explanation of the bedrock geology map of England and Wales - 1:625 000 fifth edition, British Geological Survey, Keyworth/Nottingham  
  Holland, C.H. & Sanders, I.; 2009 (2nd ed.): The Geology of Ireland, Dunedin Academic Press, Edinburgh, ISBN: 9781903765722  

Fe’i ganwyd ar Ebrill 16, 1878 ym Mhlasnewydd, Beulah, ger Castell Newydd Emlyn, Sir Aberteifi, unig blentyn David Jones a Margaret Thomas. Aeth y teulu i fyw ar fferm fach ymyl y ffordd yn yr un ardal. Plentyndod unig felly a gafodd OT ond bu’r fagwraeth yn fodd iddo gadw diddordeb mawr ar bob agwedd o fywyd cefn gwlad.

Cafodd ei addysg gynnar tan yn 15 oed yn yr Ysgol Brydenig yn Nhrewen nid nepell o’i gartref. Yn ffodus iddo daeth dan ddylawad D.S. Davies a fu’n swyddog iechyd ym Mryste cyn ymddeol a hwnnw a berswadiodd OT i ddysgu Saesneg a Ffrangeg; cyn hynny y Gymraeg oedd unig iaith y bachgen ifanc. Mae’n amlwg bod ganddo ddawn cynhenid a barodd iddo fynd i Ysgol Pencader lle disgleiriodd yn ei arholiadau, gan ei alluogi i fynd i’r brifysgol yn Aberystwyth. Yn 1900 graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn ffiseg.

O Aberystwyth aeth i Goleg y Drindod Caergrawnt lle cymerodd ddosbarth cyntaf yn y rhan gyntaf o’r Tripos, eto mewn ffiseg ond gan ychwanegu cemeg, mineroleg a daeareg. O hyn ymlaen, daeareg oedd uchaf ei ddiddordeb a disgleiriodd eto gan ennill gwobrau Harkness a Sedgewick.

Yn 1903 ymunodd ag Arolwg Daearegol Prydain Fawr gan ganolbwyntio ar astudiaethau yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Roedd yr ardal hon o ddiddordeb a phwysigrwydd mawr, yn cynnwys creigiau o’r oes Gyn-Gambriaidd gyda llu o enghreifftiau o blygiadau a thoriadau daeargol. Yn y cyfnod hwn o’i yrfa bu’n cyfrannu at greu mapiau ar raddfa 6 modedd ac 1 fodfedd. Bu’r profiad gyda’r Arolwg Prydeinig yn gyfle i OT finiogi ei ddulliau a’i arbenigedd; daliodd ei ddiddordeb, gan ddod yn adnabyddus ar draws y byd am ei wybodaeth ar greigiau Ordoficaidd, Cambriaidd a Siluraidd. Iddo ef mae’r clod am osod y seiliau i ddeall amrywiaeth ffurfiau creigiau dros ran helaeth o Ganolbarth Cymru.

Delwedd lloeren o Gymru - Ffynhonnell: NASA
Delwedd lloeren o Gymru
Ffynhonnell: NASA

Ym 1910, ac yntau’n 32 oed, fe’i penodwyd yn Athro Daeareg yn Aberystwyth, y cyntaf I ddal y swydd. Am ddwy flynedd ef oedd yr unig aelod ar staff ei adran. Roedd yn ddarlithydd poblogaidd, hyd yn oed yn dechrau am 7 y bore, gan rannu gyda’i fyfyrwyr nid yn unig ei feistrolaeth o ddulliau daeareg ond hefyd atgofion apelgar am waith allan yn y maes, lle roedd yn arweinydd brwdfrydig gyda disgwyl y byddai myfyrwyr yn gallu cadw i fyny ag ef.

Er bod ganddo gyfrifoldebau yn y coleg nid oedd pall ar ei sêl at waith mapio. Yn aml byddai’n ymadael ag Aberystwyth ddiwedd Mehefin a dychwelyd ddiwedd Medi. Cynnyrch yr holl ymdrech oedd mapiau manwl o’r ardal o gwmpas Aberystwyth, tua 1800 milltir sgwâr o dir e.e. gan fanylu ar ddyffrynnoedd afonau Tywi a Teifi. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r gwaith gan yr Arolwg Daearegol ym 1922.

Ym 1919 penodwyd OT yn Athro Daeareg ym Mhrifysgol Manceinion lle estynnodd ei ymchwil i ddelio â chreigiau ucheldiroedd Yr Alban. Trwy ei yrfa bu ganddo ddiddordeb mawr geomorffoleg a darlithiai’n aml am batrymau carthffosiaeth, toriadau ar hyd a lled dyffrynnoedd ac effeithiau rhewlifoedd.

Daeth yn Llywydd y Gymdeithas Ddaearegol yn Llundain; yn ei araith lywyddol disgrifiodd system dŵrlifiad Cymru a’r ardaloedd cyfagos.

Ym 1930 apwyntiwyd ef i Gadair Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt yn olynydd i’w hen athro. Er yn bellach o Gymru daliodd gyda’i brif ddiddordeb, sef, creigiau palaeosoaidd (tua 500 miliwn blwyddyn oed pan oedd yr hiynsawdd yn fwyn a mathau gwahanol o fywyd yn dechrau ymddangos). Tra bu yng Nghaergrawnt ymddiddorodd OT yn llithriad a chwymp sydyn y gwaddodu tanforol yn ardal Sir Ddinbych. Mewn papur a gyhoeddwyd yn 1937 disgrifiodd fframwaith gwelyau afonydd a’r gwaddodion oedd wedi eu gwelyo’n rheolaidd uwchben. Ymddeolodd o’i gadair yng Nghaegrawnt yn 1943, ond ni fu hyn yn achos iddo laesu dwyo a bu’n brysur yn teithio dros y byd yn darlithio ar agweddau o’i ddisgyblaeth.

Daeth llu o wobrau I’w rwn yn gydnabyddiaeth o’i ddisgleirdeb – yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaeargol, enillydd Medal Lyell yn 1926, enillydd Medal Wollaston ym 1945. Etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1926; rhoddwyd iddo Fedal Frenhinol y Gymdeithas honno yn 1956.

Priododd ag Ethel May Reynolds yn 1910 a magodd deulu o un ferch a dau fab. Bu farw yn Nghaergrawnt ar y 5ed o Fai, 1967 yn 89 oed.

Neville Evans, Mehefin 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Dyfrig Jones; Mawrth 2017
Ewart Ray Herbert Jones
; Rhagfyr 2016
Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015
Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014
Yr Athro Julie Williams; Medi 2014
Ieuan Maddock C.G.F.
; Mehefin 2014
John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014
David Brunt C.G.F.
; Rhagfyr 2013
Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create