Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies; Robert Owen (Cymraeg)

(June 01, 2017)

English

Y Diwygiwr Cymdeithasol heb ei ail o’r Drenewydd
Robert Owen (1771 – 1858)

Robert Owen - portread gan William Henry Brooke yn Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol
Robert Owen
portread gan William Henry Brooke, 1834
olew ar gynfas, 273 mm x 216 mm
yn Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain

Yn aml iawn, byddwn ni fel Cymry yn hoff iawn o ail-adrodd yr hen ystrydeb mai rhai cyndyn ydym fel cenedl i fentro mewn busnes. Wn i ddim o ble y tarddodd y fath syniad, gan nad oes angen ystyried yn hir cyn medru meddwl am sawl un a fu’n llwyddiannus iawn yn cymryd ei siawns ym myd diwydiant a masnach.

Un o’r bobl hynny sy’n cael ein sylw y tro hwn, a’r hyn sy’n ei wneud yn berson arbennig iawn yw’r ffaith iddo lwyddo fel dyn busnes tra’n glynu at ei egwyddorion fel diwygiwr cymdeithasol a sosialydd cydweithredol. Dyna ryfeddod Robert Owen, un o feddylwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod. Fe’i ganwyd yn Y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn, ac er iddo dreulio’i oes yn gweithio yn Lloegr ac yn yr Alban, yn ôl i’r Drenewydd y daeth yn ei flynyddoedd olaf. Heddiw, mae trigolion Y Drenewydd yn barod iawn i’w hawlio fel un ohonyn nhw wrth ymfalchïo yn ei lwyddiant.

Mab i haearnwerthwr a chyfrwywr oedd Robert Owen, ond pan oedd yn ddeg oed cafodd ei anfon i Stamford yn Swydd Lincoln i gael ei brentisio fel dilledydd. Bu yno am dair blynedd cyn cael gwaith mewn siop ddillad yn Llundain, ac yna, yn 1787, pan oedd yn un ar bymtheg oed, symudodd i Fanceinion at gwmni oedd yn cynhyrchu brethyn ac yn gwneud dillad.

Dechreuodd ymddiddori yn hanes Richard Arkwright (1732 - 1792), diwydiannwr oedd yn byw yn Cromford yn Swydd Derby, a’r gŵr a ddisgrifiwyd fel ‘Tad y Chwyldro Diwydiannol’ oherwydd ei ysbryd mentrus ym myd busnes. Llwyddodd Arkwright i drawsnewid y modd yr oedd peiriannau yn gweithio i gynhyrchu defnydd, drwy eu haddasu i weithio gyda grym dŵr, ac arweiniodd hynny at greu ffatrïoedd fel rydym ni’n eu hadnabod heddiw. Ei gamp fawr oedd cyfuno nifer o’r elfennau hyn mewn dull arloesol, sef defnyddio grym dŵr i weithio peiriannau pwrpasol, a chyflogi gweithlu medrus oedd yn trin cotwm i gynhyrchu edau ac edafedd.

Syr Richard Arkwright, portread gan Mather Brown
Syr Richard Arkwright, portread gan Mather Brown
olew ar gynfas, 127.95 × 102.55 cm
Delwedd: New Britain Museum of American Art, New Britain, Conneticut, UDA
Ffynhonnell: The Athenaeum

Roedd Richard Arkwright yn arbennig o awyddus i ddenu teuluoedd gyda nifer fawr o blant i ddod i Cromford, ac wrth gwrs, arferai gyflogi’r plant yn ogystal â’r rhieni, Gallai plentyn mor ifanc â saith oed gael gwaith yn y felin, er i hyn newid i ddeg oed yn nes ymlaen. Roedd yn cyflogi 1,500 erbyn iddo ymddeol, ac roedd bron i fil o’r rheiny’n blant, sef dwy draean y gweithlu. Arferai ganiatáu wythnos o wyliau bob blwyddyn, ar yr amod na fydden nhw’n gadael y dref.

Daeth Robert Owen i edmygu menter Arkwright yn fawr iawn, ac er mai dim ond pedair ar bymtheg oed oedd ef ei hun, benthycodd ganpunt i geisio dechrau busnes tebyg, a dechreuodd ef a’i gyfaill, John Jones, gynhyrchu peiriannau nyddu. Byrhoedlog oedd y fenter, ond roedd Robert Owen wedi magu digon o brofiad i gael swydd fel rheolwr ar ffatri nyddu fwyaf ym Manceinion, oedd yn eiddo i Peter Drinkwater.

Bu hyn yn gyfle iddo ddod i adnabod llawer iawn o ddynion busnes oedd yn flaenllaw yn y diwydiant tecstilau, ac yn eu plith, dyn o’r enw David Dale, perchennog cwmni Chorton Twist yn New Lanark, ar lan Afon Clud yn Yr Alban. Daethon nhw’n ffrindiau da, ac yn wir fe briododd Robert Owen gyda merch Dale, sef Caroline.

Y cam nesaf oedd prynu pedair ffatri tecstilau yn New Lanark gan David Dale am y swm o £60,000, a chafodd gefnogaeth gan lawer o ddynion busnes ym Manceinion i’w alluogi i wneud hyn. Tyfodd y busnes yn gyflym, ond roedd gan Robert Owen freuddwyd fawr y tu hwnt i wneud elw, gan ei fod yn awyddus i greu amgylchfyd pleserus ar gyfer ei weithwyr. Credai’n gryf fod dynoliaeth fel y cyfryw yn gynhenid dda, ond fod yr amgylchfyd weithiau’n peri i bobl fod yn ddrwg. A dyna pam y penderfynodd wahardd pob cosb gorfforol o ysgolion a ffatrïoedd New Lanark.

CartrefRobert Owen yn New Lanark – Llun: Gordon Brown
Cartref Robert Owen yn New Lanark
Llun: Gordon Brown

 

Bu gweithio ym Manceinion yn agoriad llygad iddo gan bod yr amodau yn wael iawn yno, a pherchnogion ffatrïoedd yn cymryd mantais ar blant nes eu troi yn oedolion chwerw.

Pan gyrhaeddodd Robert Owen New Lanark, roedd dwy fil o bobl yn byw yno eisoes, a channoedd o dai wedi eu codi yn y pentref yn agos at y ffatri. Ond y peth cyntaf a wnaeth oedd codi ysgol newydd, a mynnai gynnwys disgyblaethau megis dawnsio, cerddoriaeth ac astudiaethau byd natur ar y cwricwlwm. Iddo ef, roedd addysg yn allweddol i greu’r math o berson ’roedd am ei weld yn y gymdeithas leol. Agorodd siop lle y medrai’r gweithwyr brynu nwyddau o safon uchel am brisiau rhesymol.

Lledaenodd y sôn am ei weledigaeth dros y byd i gyd, a daeth pobl o bell i weld y lle drostyn nhw’u hunain, gan gynnwys Tsar Rwsia hyd yn oed. Roedd sosialaeth Robert Owen yn wahanol i’r arbrofion a fu cyn hynny gan fod yr elfen o gyfiawnder cymdeithasol mor gryf, a’r pwyslais ar weithredu’n ymarferol er lles y gweithwyr.

Un o gefnogwyr mwyaf brwd Robert Owen oedd y newyddiadurwr a’r awdur George Holyoake (1817-1906), oedd yn anffyddiwr, ac yn sosialydd pybyr. Roedd hwn yn ddyn diddorol eithriadol a ddisgrifiai ei hun fel “seciwlarydd a chyd-weithredwr”. Yn wir, ef a fathodd y term "secularism" yn Saesneg, ac ef hefyd sydd biau’r term "jingoism". Bu’n olygydd ar nifer o wahanol bapurau newydd yn ystod ei oes, a phob un yn arddel safbwynt seciwlar. Y ddau a gysylltir â'i enw amlaf oedd The Reasoner, a The English Leader.

George Jacob Holyoake
George Jacob Holyoake

Methodd Holyoake gael swydd fel athro ysgol oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol, ac felly cafodd ei benodi yn genhadwr cymdeithasol dros syniadau Robert Owen, wedi ei leoli yng Nghaerwrangon i ddechrau ac wedyn yn Sheffield. Fel mae’n digwydd, ef oedd y person olaf yng ngwledydd Prydain i gael ei erlyn am gabledd o ganlyniad i anerchiad yn Cheltenham, a charcharwyd ef am chwe mis.

Credai Holyoake yn gydwybodol mai Robert Owen oedd sylfaenydd y deffroad cymdeithasol, yn yr un modd ag y bu Thomas Paine yn sylfaenydd syniadau gwleidyddol ymysg pobl Lloegr. Yn ei farn ef, roedd Owen wedi llwyddo i brofi bod modd gwella cymdeithas drwy greu amgylchfyd materol cyfiawn a moesol. Er bod yna sawl un yn coleddu syniadau tebyg, Robert Owen oedd yr un a lwyddodd i wireddu ei freuddwyd mewn modd ymarferol. Teimlai’n angerddol dros gyflogi pobl dan amodau teg a chyfiawn, ac roedd am weld sefydlu dinasoedd a fedrai gynnal eu hunain, a fyddai’n enwog am eu hamgylchedd dymunol, gyda pheiriannau’n gwneud y gwaith trwm, budr, a’r trigolion yn mwynhau eu hunain yn addysgol ac yn ddiwylliannol. Dylai pobl fod yn gweithio er eu mwyn eu hunain, a nhw hefyd ddylai fwynhau ffrwythau eu llafur. Dyna graidd breuddwyd Robert Owen, ac ni welai unrhyw reswm pam na ddylai hyn fod yn ymarferol bosib.

Drwy gydol ei oes, ymgyrchodd Robert Owen am amodau gwell i weithwyr, ac ysgrifennodd gyfrol dan y teitl A New View of Society (1813) oedd yn egluro’i weledigaeth mewn manylder. Ym 1824 ceisiodd greu cymuned debyg i New Lanark yn Indiana, gan alw’r datblygiad yn New Harmony, ac er nad oedd honno mor llewyrchus â New Lanark, cafodd ei syniadau ddylanwad mawr. Hyd heddiw, caiff ei gydnabod gan bawb fel yr arloesydd pennaf yn y gwaith o ddiwygio ffatrïoedd, ac fel tad y mudiad cydweithredol. Gellid dweud hefyd mai ef oedd sylfaenydd yr ysgolion meithrin cyntaf ar gyfer plant mân y gweithwyr.

Gweledigaeth Robert Owen a roes fod i’r siop gydweithredol gyntaf yn Rochdale ym 1844 ac fe flodeuodd honno i roi inni fudiad cydweithredol y ‘Co-operative’ a ledaenodd dros y byd.

Cofgolofn Robert Owen ym Manceinion – Llun: Mike Peel
Cofgolofn Robert Owen ym Manceinion
Llun: Mike Peel

Ag yntau mewn gwth o oedran, penderfynodd Owen ail ymgartrefu ym mro ei febyd ym 1858, pan symudodd yn ôl i’r Drenewydd, ond bu farw ymhen ychydig fisoedd ar ôl dychwelyd. Heddiw, daliwn i gofio amdano fel un a wnaeth cymaint dros ddiwygio ffatrïoedd a sicrhau addysg i bawb. Does ryfedd ei fod yn cael ei alw’n Sosialydd Utopaidd. Roedd yn gawr o ddyn yn ei gyfnod, ac efallai nad ydym ni fel Cymry wedi cydnabod hynny’n ddigonol.

Beddrod Robert Owen yn Y Drenewydd – Llun: Penny Mayes
Beddrod Robert Owen yn Y Drenewydd
Llun: Penny Mayes

Claddwyd ef yn Y Drenewydd, ond codwyd cofeb iddo ym mynwent Kensal Green yn Llundain, y drws nesaf i’r gofeb enwog i’r diwygwyr mawr drwy’r oesau – y Reformers’ Memorial.

Cofeb Robert Owen ym Mynwent Kensal Green – Llun: Edward HandsCofeb Robert Owen ym Mynwent Kensal Green
 Llun: Edward Hands

Ond ar gofeb Robert Owen fe welir y geiriau “His life was sanctified by human affection and lofty effort." Geiriau addas sy’n crynhoi bywyd a breuddwyd un y medrwn fod yn hynod falch ohono.

Emlyn Davies, Mehefin 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

     Ynysyfelin, cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley
; Rhagfyr 2016

Adelina Patti
, Medi 2016
Billy Hughes
; Mehefin 2016

Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015

Y ddau gochyn; Mehefin 2015
 
cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan:
Caregos Cyf., 2017

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create