Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Gwyddonwyr o Gymru: Yr Athro Meirion Wyn Roberts

(December 01, 2017)

English

Yr Athro Meirion Wyn Roberts
Yr Athro Meirion Wyn Roberts

Cafodd Wyn Roberts ei eni a’i fagu mewn cyfnod ac ardal lle roedd dau ddiwylliant yn ddylanwadol; un oedd y capel anghydffurfiol lle bu’r gweinidog yn defnyddio’i dalent i oleuo’i braidd a’r llall oedd yr ysgol ramadeg. Bu’r cyntaf yn meithrin agwedd ddeallusol tuag at fywyd a’r ail yn hogi gallu ymenyddol mewn awyrgylch cystadleuol. Ar hyd ei yrfa ymchwil mewn prifysgolion yn Nulyn, Bradford a Chaerdydd arddangosodd Wyn ddycnwch ymenyddol a chyfeillgarwch cydweithredol yng nghyd-destun ymdrech benderfynol i ennill gwelliant. Disgleiriodd yn ei ddisgyblaeth benodol mewn cemeg, gan ddisgrifio prosesau molecwlar ar arwyneb metelau. I’r perwyl hwn dyfeisiodd ddulliau arbrofol, arloesol a arweiniodd at ddata mwy manwl a dealltwriaeth ragorach.

Fe’i ganed ar y 1af o Chwefror 1931 yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Parc-y-Rhun lle pasiodd yr 11+, gan roi mynediad iddo i Ysgol Ramadeg Sirol Dyffryn Aman. Roedd ethos yr ysgol honno, ac i raddau yr ardal, yn un cystadleuol, yn y cyd-destun o fagu awydd i ffoi o gyfyngiadau gormesol y chwech pwll glo lleol.
  

Sfferau nicel a crewyd gan y Broses Mond
Sfferau nicel a crewyd gan y Broses Mond

Yn yr ysgol ramadeg heriwyd a mireiniwyd ei ddiddrdeb cynhenid mewn gwyddoniaeth gan safonau llym dau athro – O.J.Evans (cemeg) a J.A. Owen (ffiseg). Mewn llythyr ataf nododd, ‘cefais fy nghyflwyno i’r cysyniad o ddarganfod pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth gan O.J.Evans a ofynodd imi fynd a defnyddio darn o sialc yn sefyll yn fertigol mewn toddiant o ddail er mwyn gwahanu’r pigmentau. Rwyn amau a oedd ef yn defnyddio’r term cromatograffi, ond datblygodd y broses yn gyflym iawn i fod ymhlith twls mwyaf pwysig y cemegydd dadansoddol. I mi ar y pryd yn 16 oed yr agwedd bwysig oedd y syniad o wneud darganfyddiad. Roedd O.J Evans yn un nodedig am gyffroi ymagweddau dychymyg a allai fod mewn disgybl’.

O’r ysgol ramadeg aeth Wyn i Goleg y Brifysgol, Abertawe gan ennill radd anrhydedd mewn cemeg. Wedyn dilynodd raglen ymchwil, gan ddewis, yn absenoldeb cyfarwyddyd penodol gan ei diwtor, archwilio maes newydd, sef, gwyddoniaeth arwynebau, hynny yw, adweithiau molecylau ar arwyneb solidau. Ar y dechrau roedd ei ddiddordeb yn canolbwyntio ar rôl sylffwr fel catalydd yn y broses o wneud carbonyl nicel – y Broses Mond. O’r fenter betrus hon blodeuodd gyrfa yn rhychwantu 40 mlynedd, pryd arloesodd Wyn dechnegau ymarferol a dyfeisio offer a ddaeth yn fodelau ar gyfer ymchwil a datblygiad ar draws y byd.

Gadawodd Abertawe a dilyn ei ddiddordebau ymchwil yn Llundain, Coleg Imperial (1955-57) ac yna yn y Labordy Cemegol Cenedlaethol yn 1957-59.

Ar sail ei addewid sylweddol yn wyddonydd arwynebau denwyd ef i fod yn ddarlithydd i Ddulyn, Prifysgol Queen’s lle bu am 7 mlynedd (1959-66). Yno, cyflawnodd waith o safon uchel iawn ar gemsugniad nwyon ar arwynebau solidau, ar ffwythiant gwaith metelau ac ar gemeg ffisegol ocsidiad metelaidd. Ar gefn hyn fe’i apwyntiwyd yn Athro Sylfaen Cemeg Ffisegol yn Mhrifysgol Bradford, sefydliad newydd. Bu yno am 13 mlynedd (1966-79). Gyda’r swydd daeth rhyddid ehangach a chamodd ymlaen gyda mwy o waith arloesol ac ennill clod mawr. Yn 1979, derbyniodd swydd Pennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd (yr enw presennol). Yma daliodd ati gyda’i astudiaeth gydol-oes ar brosesau arwynebau, gan ennill parch ei gydweithwyr, nid yn unig am ei ddisgleirdeb cynhenid ond hefyd am ei gyfarwyddyd sicr a doeth, a amlygodd yn ei gyfraniadau at weinyddiaeth ei adran a’r brifysgol. Arhosodd yng Nghaerdydd am weddill ei yrfa broffesiynol, gan ymestyn heibio’r oedran ymddeol ffurfiol ac aros yno yn Athro Ymchwil er Anrhydedd hyd ei farw ar y 5ed o Fawrth 2014 yn 83 oed.

Yn ystod ei yrfa derbyniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, y cyfan yn cydnabod ei ddisgleirdeb yn ei destun, gan gynnwys bod yn Athro Gwadd dramor, megis yn Xiamen, Tseina (1985), Berkeley, Prifysgol Califfornia (1985) ac Academi Gwyddorau yr India (1984).

O bosib, ei gyfaill gorau ar hyd ei fywyd ers dyddiau coleg a chyd-gemegydd oedd Yr Athro John Meurig Thomas. Seliwyd eu cyfeillgarwch yn eu dyddiau cynnar yn eu priodasau, y naill a’r llall yn was priodas i’w gilydd. Felly, mi roedd yn gwbl briodol yn angladd Wyn fod y deyrnged yn cael ei chyflwyno gan ei gyfaill cu. Mae’r hyn sy’n dilyn yn yr ysgrif hon yn ddetholiad o’r deyrnged honno; mae’r cyfan ar y We.

"Rydym oll yn cofio Wyn fel person o integriti dwys; yn unigolyn hael, cyfeillgar, hawdd mynd ato a hoffus oedd yn taenu daioni a charedigrwydd. Rhoddodd fwy nag a dderbyniodd. Roedd yn llawn hynawsedd, yn ystyriol ac yn gyfraniadol. Roedd ei wyneb siriol ac ymagweddau cynhwysol at eraill yn nodweddiadol ohono.

Daethom i nabod ein gilydd gyntaf pan oeddem yn aelodau o Dim Athletau Ysgolion Sir Caerfyrddin yn 1947; yntau yn sbrintwr a minnau’n gerddwr. Buom yn ymrafael â’n gilydd mewn rygbi, yntau yn asgellwr chwim a llwyddiannus.

Yn ddiweddarach, yn Abertawe, pan oedd Wyn yn fyfyriwr ymchwil ar ei flwyddyn gyntaf a minnau yn y dosbarth anrhydedd, closiodd ataf gan iddo gofio ein dyddiau athletau. Pan ddechreuais fy ymchwil mewn cemeg organig, ces sgwrs gyda Wyn pan ddwedodd fod cemeg ffisegol yn llawer mwy cyffrous – mewn llai na diwrnod newidiais faes fy ymchwil. Felly, mewn ffordd o siarad, rwyn ddyledus i Wyn am fy ngyrfa yn gemegydd ffisegol. Yno, seiliwyd a seliwyd ein cyfeillgarwch oes – buom yn trafod llawer, gan gynnwys gwleidyddiaeth a chrefydd.

Roedd gwaith Wyn gyda’i gydweithwyr yn arloesi llwybrau newydd sbon. Denwyd gwyddonwyr y byd ato. Ymhlith ei ymwelwyr yn Bradford oedd yr Athro Nevill Mott, enillydd Gwobr Nobel maes o law. Teithiodd hwnnw o Gaergrawnt i Bradford i drafod gyda Wyn am ei astudiaethau ar allyriad ffoton o arwynebau metelau ac ocsidiad metelau.

Roedd yn gefnogwr heb ei ail, yn tynnu’r gorau allan o bobl. Roedd yn greadigol ac yn mynnu safonau uchel; deliodd yn deg gyda phawb a daeth o fewn ei gylch.

Rwyn werthfawrogol y tu hwnt i eiriau am gyfeillgarwch Wyn. Derbyniais gyngor da ganddo droeon….. derbyniais gardiau penblwydd yn cario testunau gwyddonol. Ni ellir cyfrif yn hawdd elfennau cyfeillgarwch. Yn ôl Albert Einstein a ddywedodd mewn cyd-destun arall,’Ni ellir cyfrif pob peth sy’n cyfrif ac nid yw popeth sy’n cyfrif yn gyfrifadwy’.

Y cyfan a wn i yw bod cyfeillgarwch yn un o’r perthynasau mwyaf pwysig y gallwn eu profi ar y ddaear hon…..nid oes gan gyfeillgarwch werth goroesol. Ond mae cyfeillgarwch yn ychwanegu gwerth at oroesiad."

Yn dilyn marwolaeth yr Athro Wyn Roberts ym mis Mawrth 2014 sefydlodd Adran Cemeg, Prifysgol Caerdydd, Ddarlith Goffa Wyn Roberts. Yn gwbl briodol, traddodwyd y ddarlith gyntaf ym mis Mai 2014 gan yr Athro John Meurig Thomas.

Neville Evans, Rhagfyr 2017

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau y rhain gan Dr Neville Evans:

Yn y gyfres Gwyddonwyr o Gymru

     Yr Athro Sam Edwards; Medi 2017
Owen Thomas Jones; Mehefin 2017

Dyfrig Jones; Mawrth 2017
Ewart Ray Herbert Jones
; Rhagfyr 2016

Elwyn Hughes; Medi 2016
Gareth Roberts
; Mehefin 2016
Ezer Griffiths
; Mawrth 2016

Handel Davies; Rhagfyr 2015
Mathemategwyr; Medi 2015
Yr Athro Eleri Pryse; Mehefin 2015
William Robert Grove; Mawrth 2015
Frank Llewellyn-Jones; Rhagfyr 2014
Yr Athro Julie Williams; Medi 2014
Ieuan Maddock C.G.F.; Mehefin 2014
John Houghton C.G.F.; Mawrth 2014
David Brunt C.G.F.; Rhagfyr 2013
Yr Athro John Beynon; Medi 2013
John Meurig Thomas; Mehefin 2013

 Yn y gyfres Scientists of Wales (Saesneg yn unig)

     Robert Recorde and William Jones; March 2013
Richard Tecwyn Williams, F.R.S; December 2012

Lyn Evans; September 2012
The rich science heritage of Wales - E G Bowen; June 2012

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017
 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create