Cymru Culture

Articles / Erthyglau

Emlyn Davies - Pererin Hedd: George M. Ll. Davies

(December 01, 2017)

English

Pererin Hedd: George M. Ll. Davies (1880-1949)
 
George M Ll Davies 1940s
George M Ll Davies, 1940s

Pan oeddwn yn f’arddegau, clywais rywun yn sôn am ewythr o ffermwr iddo oedd newydd brynu ysgrifbin newydd. Er mwyn ymarfer gyda hi, roedd wedi ysgrifennu’r llythrennau G.M.Ll.D drosodd â throsodd ar y dudalen wag o’i flaen. Gwyddai’n iawn mai arwr mawr ei ewythr oedd yr heddychwr George Maitland Lloyd Davies, ond er mwyn tynnu ei goes cymrodd arno bod yr ysgrifen yn dipyn o ddirgelwch, ac fe’i holodd am yr ystyr. Ymateb yr hen ffermwr oedd “Gŵr Mewn Llaw Duw”.

Byddai angen cyfres o erthyglau yn y cylchgrawn hwn i wneud cyfiawnder â chyfraniad gloyw George M. Ll. i wahanol achosion, yma yng Nghymru a thros y byd, ond gan ei bod eleni yn ganmlwyddiant dechrau gyrfa wleidyddol Éamon de Valera, bodlonwn ar ganolbwyntio ar ei ymdrechion i ddod ag arweinwyr Iwerddon â Phrydain at ei gilydd er mwyn ceisio osgoi unrhyw golli gwaed.

Éamon de Valera, c. 1922-30
Éamon de Valera, c. 1922-30

I ddeall meddwl a chymhellion George Davies, rhaid cyfeirio at ei fagwraeth freintiedig yn Lerpwl, a’r dylanwadau a fu arno. Bryd hynny, wrth gwrs, Lerpwl oedd prifddinas answyddogol gogledd Cymru, a’r iaith Gymraeg yn amlwg ar ei strydoedd, gyda chapel Princes Road, lle roedd ei dad yn flaenor, fel cadeirlan Gymraeg i’r Methodistiaid Calfinaidd. Roedd Gwen, mam George Davies, yn ferch i’r enwog John Jones Talysarn, pregethwr oedd gyda’r huotlaf yng Nghymru ar y pryd.

Byr-hoedlog fu moethusrwydd dosbarth canol y teulu. Ym mis Mawrth 1891, pan oedd George yn dal yn ddisgybl yn y Liverpool Institute, aeth yr hwch drwy’r siop yn hanes busnes ei dad, a chollwyd y cyfan. I flaenor parchus yn y fath gymdeithas ffroenuchel, roedd bod yn fethdalwr yn bechod anfaddeuol, a chollodd y teulu lawer o’u ffrindiau a’u statws. Cafodd hynny effaith fawr ar George M. Ll., ac mae lle i gredu mai’r bennod drist honno yn hanes y teulu a blannodd y fath atgasedd ynddo at olud bydol a snobeiddiwch o bob math. Ond roedd dylanwad ei fam hefyd yn gyfrifol am ffurfio’i bersonoliaeth.

Dechreuodd ar yrfa ddisglair gyda'r tiriogaethwyr tra oedd yn gweithio fel bancwr, gan ddod yn Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac yn 1911 chwaraeodd ran amlwg yn seremoni arwisgo Edward yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon. Ond doedd hynny ddim wrth fodd ei fam, Gwen Davies, a byddai’n edliw iddo ei fod yn gwisgo lifrau er mwyn dysgu lladd. Nid y lifrau milwrol oedd unig ymdrech Gwen i geisio dylanwadu ar fywyd ei mab, gan iddi fod yn feirniadol o’i ddewis o gariad hefyd. Roedd George wedi cyfarfod â Leslie Royde Smith, merch ifanc o Lundain a ddaeth yn athrawes i Wrecsam, ond doedd hi ddim wrth fodd calon y fam.

Yn weddol fuan, cafodd George ei ddadrithio yn y fyddin, ac ar yr un pryd dechreuodd gasáu’r byd bancio’n llwyr, gan ei weld yn groes i ddysgeidiaeth Crist. Dioddefodd o iselder ysbryd, a byddai’r aflwydd hwnnw’n ei boeni ar adegau weddill ei fywyd. Erbyn 1914, o fewn tair blynedd i fod ynghanol y rhwysg yng nghastell Caernarfon, roedd George M. Ll. wedi ymddiswyddo o’r fyddin ac o’r banc.

Gweithiodd am gyfnod ym Mhlasty Gregynog gydag Ymddiriedolaeth Cynllunio Trefi a Thai Cymru, y cynllun a gododd o awydd David Davies, Llandinam i wella ansawdd iechyd a chartrefi pobl Cymru. Yna, ym mis Medi 1914, derbyniodd swydd fel Dirprwy Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yn Llundain, ac o hynny hyd ddiwedd ei oes, gweithiodd dros achos heddwch mewn gwahanol ffyrdd.

Ag yntau’n heddychwr amlwg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn pregethu’n agored yn erbyn militariaeth, roedd yn rhwym o ddod i sylw’r awdurdodau. Y canlyniad anorfod bron oedd iddo gael ei garcharu am ei ddaliadau, a threuliodd gyfnodau mewn pedwar carchar gwahanol rhwng diwedd 1917 a Mehefin 1919.

Tra roedd yng ngharchar Birmingham ac yng Ngwersyll Knutsford, yn Swydd Caer, daeth George Davies i gysylltiad â llawer o genedlaetholwyr Gwyddelig, a magodd gryn gydymdeimlad at eu hachos yn ymgyrchu am Iwerddon Rydd.

Yr elfen bwysig arall oedd bod Thomas Jones, Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffrind personol da i George M.Ll. ers dyddiau Gregynog. O’r ddwy ochr felly, roedd George mewn safle ddelfrydol i gymrodeddu rhwng Prydain ac Iwerddon. Drwy gydol 1920 a 1921, bu’n cario negeseuon yn ôl ac ymlaen rhwng arweinwyr y gwrthryfelwyr yn Iwerddon a swyddfa’r Cabinet yn Llundain.

A gyflawnodd George unrhyw beth? Rhaid cyfaddef nad yw’r haneswyr yn gyffredinol yn gytûn ynghylch hynny, ond mae modd cyflwyno dadl gref o blaid pwysigrwydd ei gyfraniad.

Aeth i Iwerddon ar ran Cymdeithas y Cymod ym mis Awst, 1920, ond roedd wedi trafod y bwriad gyda David Lloyd George yn ogystal. Clywodd yno am y dyhead i weld gweriniaeth rydd, heb unrhyw raniad ar gyfer Ulster. Aeth yn syth oddi yno i’r Alban ar gyfer Cymanfa Gyffredinol yr Eglwys yn yr Alban, lle y pasiwyd cynnig yn galw ar y llywodraeth yn Llundain i atal y trais yn Iwerddon. Oddi yno, rhuthrodd i Sasiwn Porthmadog lle roedd Lloyd George yn ŵr gwadd, er mwyn hysbysu’r Prif Weinidog am ofynion y Gwyddelod. Gofynnodd Lloyd George iddo fynd i Lanrhaeadr-ym-Mochnant ar ei union, i berswadio’r Sasiwn yno hefyd i bwyso am gymod yn Iwerddon. Ymhle arall tybed y byddai prif weinidog gwlad yn trefnu diplomyddiaeth ryngwladol o sasiwn i sasiwn?

David Lloyd George, c. 1918
David Lloyd George, c. 1918

Yn gynnar yn 1921 aeth George M. Ll. i Downing Street unwaith yn rhagor i geisio gweld Lloyd George yn bersonol i bwyso arno i agor trafodaethau gyda de Valera. Gan nad oedd y Prif Weinidog ar gael, gadawodd nodyn iddo, yn Gymraeg, yn apelio arno i arddel ewyllys gymodlon. Y bore Llun canlynol, gwelodd yn y wasg fod Lloyd George yn wir wedi estyn gwahoddiad i de Valera ddod i Lundain i drafod.

Ai dylanwad George oedd hynny? Pwy a ŵyr. Roedd ef ei hun yn credu hynny. Does ryfedd felly i Ddirprwy Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at George ddechrau Gorffennaf, 1921, yn gofyn iddo fynd i Ddulyn unwaith yn rhagor. Yno, cyfarfu â gwleidydd prin ei fath, sef James Douglas, oedd yn Grynwr pybyr yn ogystal â bod yn aelod brwd o Sinn Féin. Trefnwyd i George gyfarfod Erskine Childers, a addawodd drefnu cyfweliad gyda de Valera yn ei gartref. Bu’r Cymro yn aros amdano am rai oriau, ond ni ddaeth i’r fei. Y diwrnod canlynol, bore Llun y 4ydd o Orffennaf, 1921, ysgrifennodd lythyr at de Valera gan fwriadu ei ddanfon yn bersonol i’r Mansion House. Pan gyrhaeddodd yno, gwelai gannoedd ar gannoedd o bobl o flaen yr adeilad, ac nid oedd gobaith mynd yn agos. Cafodd syniad gwreiddiol tu hwnt, sef gofyn i bobl yn y dorf basio’r llythyr o law i law dros bennau ei gilydd at y drws. A dyna ddigwyddodd!

Robert Erskine Childers, c1920 Y Mansion House, Dulyn, 1921
Robert Erskine Childers, c. 1920 Y Mansion House, Dulyn, 1921

Y bore wedyn, cawsant hanner awr o drafod gonest. Roedd de Valera, fel James Douglas ac Erskine Childers, o’r farn mai ystryw gan Lloyd George oedd y gwahoddiad i ddod i drafod, gan y byddai cynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon yno hefyd, ac ni allai Sinn Féin eu cydnabod hwy heb ildio’u hegwyddorion am Iwerddon weriniaethol, unedig. Ond pwysleisiodd George ei fod o’r farn fod y gwahoddiad yn ddilys.

  

Cynrychiolwyr Iwerddon yn y trafodaethau 1921
Cynrychiolwyr Iwerddon yn y trafodaethau, 1921

Yn fuan wedyn clywodd fod y Cadfridog Jan Christian Smuts o Dde Affrica wedi ei anfon i Ddulyn i ail gyflwyno’r gwahoddiad. Y tro hwn, derbyniodd De Valera.

Pilgrim of Peace - Jen Llywelyn

Fel roedd y trafodaethau’n dechrau, cyflwynodd George lyfr emynau yn anrheg i Lloyd George, drwy law Thomas Jones. Roedd hwn ar un adeg wedi bod yn eiddo i’w daid, John Jones Talysarn, gŵr yr oedd gan y Prif Weinidog edmygedd mawr ohono. Cydnabu Lloyd George wedyn ei fod wedi ei ddangos i de Valera ac wedi adrodd ychydig o hanes y pregethwr grymus wrtho.

Arweiniodd y trafod hwn at arwyddo cytundeb ym mis Rhagfyr 1921, ond yn anffodus nid oedd i barhau, a chafwyd rhyfel cartref.

Bach iawn o sylw a gafodd ymdrechion George gan haneswyr Iwerddon a Lloegr. Ond beth bynnag oedd ei bwysigrwydd yn y broses gymodi, y gwir yw iddo beryglu ei fywyd yn siarad gydag arweinwyr Sinn Féin ar y pryd. A does wybod faint o ddylanwad a gafodd ar Lloyd George a Thomas Jones.

Yn sicr, nid llwfrgi yn cuddio y tu ôl i heddychiaeth i ddiogelu ei groen ei hun mo George Maitland Lloyd Davies, ond heddychwr o argyhoeddiad nad oedd ofn wynebu peryglon real i geisio cymod. Bu’n aelod seneddol am flwyddyn, a gwnaeth safiad dros heddch yn Iwerddon yn San Steffan hefyd.

Yn ei llyfr Pilgrim of Peace, mae Jen Llywelyn yn dyfynnu geiriau’r diwinydd a’r heddychwr Charles E. Raven a ddywedodd ar farwolaeth George Davies, “Ychydig o bobl a gyfarfyddwn yn ystod ein hoes sy’n meddu nodweddion neilltuol sancteiddrwydd, ac o’m rhan fy hun ni allwn ystyried George yn llai na sant.” Fe eglurodd yr awdur beth a arweiniodd at ysgrifennu ei chyfrol ardderchog a manwl mewn darn ar gyfer Cymru Culture y llynedd, Ysgrifennu cofiant yng Nghymru.

Emlyn Davies, Rhagfyr 2017

Darllen Pellach:

Pilgrim of Peace, Jen Llywelyn (Y Lolfa, 2016)
Writing biography in Wales, Jen Llywelyn, cylchgrawn Cymru Culture, Mawrth 2016
Heddychwr Mawr Cymru, E. H. Griffiths (Llyfrfa’r Methodistiaid 1967)
Seraff yr Efengyl Seml, E. H. Griffiths (Llyfrfa’r Methodistiaid 1967)
Protest a Thystiolaeth, Dewi Eirug Davies (Gomer 1993)
Oriel o Heddychwyr Mawr y Byd, D. Ben Rees / E. H. Griffiths (Cyhoeddiadau Modern Cymreig 1983)
Pererindod Heddwch, George M. Ll. Davies (Gwasg Gee 1945)

Os ydych yn hoffi hyn, byddwch hefyd yn mwynhau hyn gan Emlyn Davies:

    

Canon William Evans; Medi 2017
Robert Owen; Mehefin 2017
Ynysyfelin, cymuned goll; Mawrth 2017
Laura Ashley; Rhagfyr 2016
Adelina Patti, Medi 2016
Billy Hughes; Mehefin 2016
Coed y Bleiddiau; Mawrth 2016
Betsi Cadwaladr; Rhagfyr 2015
Syr Thomas Artemus Jones; Medi 2015
Y ddau gochyn; Mehefin 2015

 

cylchgrawn Cymru Culture magazine
Published by/Cyhoeddwyd gan: Caregos Cyf., 2017
 

Click here to return to the Articles - Erthyglau page



Powered by Create